Artists
Album Info
Release Date: 1969Label: Wren Records
Yn ein hoes ni daeth y gair llafar unwaith eto yn gyrwng addysgu a diddori ar raddfa eang yn y cartref yn ogystal a'r aelwyd. Nid digon bellach yw cyflwyno lenyddiaeth a hanes cenedl trwy gyfrwng llyfrau. Mac pob iaith fyw a berchir gan y sawl sy'n ei siarad yn cael eu recordio fel y gellir ei chlywed yn ogystal a'i darllen. Ceisiwn, felly, roddi i'r Gymraeg le anhydeddus yn y datblygiad hwn. Dyna ywamcan Cyfres Recordiau'r Ysgol a'r Aelwyd. Wrth ddilyn y gyfres hon cewch gyfle i glywed lleisiau llawer o feirdd a llenorion
gorau Cymru yn ogystal ag ymgydnabod a'u gwaith. Cewch hefyd gyfle i glywed rhai o ddarlithwyr ac ysgolheigion gorau Cymru yn trafod llenyddiacth a hanes ein gwlad. Ar y record hon cewch glywed bardd gwrthryfelgar, gwladgarwr a Christion cadarn, yn cyfwyno rhai o'i gerddi. Yn y cerddi hyn ceir adlewyrchiad o wewyr Cymru yn ystod y ganrif hon, yn ogystal à theimladau'r bardd ei hun. Bydd y
record hon o ddiddordeb arbennig i gyn-fyfyrwyr Adran Gymraeg Coleg Aberystwyth.